Newyddion diweddaraf!Nid yw Kyfieithu ar y gweill ar hyn o bryd, o achos projectau eraill. Croeso i KyfieithuYmdrech cymunedol gwirfoddol yw Kywaith Kyfieithu, efo'r amcan o wneud i'ch cyfrifiadur siarad Cymraeg! Pan gadwch ddogfen, er enghraifft, byddwch yn gweld Cadw yn lle Save. Bydd pob un o'r ymgomau ar gyfer y CP - ei osodiadau ffurfweddu, ei wybodaeth argraffydd, ac ati - yn Gymraeg. Byddwch yn gallu cyfnewid rhwng Cymraeg a Saesneg fel bo angen, hefyd. Mae'r meddalwedd i wneud hyn ar gael am ddim, ac mae'n rhedeg ar Linux, yr ail ddewisiad mwyaf poblogaidd yn y byd ar gyfer cyfrifiaduro. Defnyddir a cynhelir Linux gan gwmniau enfawr fel IBM, HP and Sun. Gan ddefnyddio Linux, gallwch wneud popeth rydych yn ei wneud eisoes â'ch CP - pori'r Rhynwyneb, anfon ebost, chwarae a chreu CDs, ysgrifennu llythyrau, creu posteri, gwylio ar DVDs, golygu eich cipluniau, chwarae gemau, ac ati. Os hoffech CD fydd yn rhedeg penbwrdd Linux yn Gymraeg ar eich CP cyfredol, heb newid eich arsefydliad cyfredol, ewch i'r wefan Cymrux. Cychwynnodd Kyfieithu ar Ddydd Gŵyl Dewi 2003, ac fel y gwelwch o'r bar cynnydd, rydym ar y ffordd i gyrraedd ein nod - mae sgrinluniau o'r gwaith hyd yn hyn ar y wefan Cymrux. (Mae'n ddiddorol gweld bod rhai gwneuthurwyr o feddalwedd perchnogol, ers lansiad Kyfieithu, wedi penderfynu cefnogi Cymraeg am y tro cyntaf hefyd ... cyd-ddigwyddiad, mwy na thebyg!) Mae'r wefan yma yn gadael i chi gyfrannu i'r ymdrech gwirfoddol gan awgrymu cyfieithiadau ar gyfer y darnau testun ("llinynnau") fydd defnyddiwr yn eu gweld ar y sgrin cyfrifiadur. Er enghraifft, mae angen cyfieithu'r llinyn Print this document now? i rywbeth fel Argraffu'r ddogfen hon nawr? Gallwch gyfrannu cyfieithiadau fel hyn yn hawdd iawn, drwy glicio'r cyswllt Dechrau cyfieithu! uchod, a llenwi'r bylchau yn y ffurflen y welwch. Gallwch ddefnyddio unrhyw borydd - nid oes angen rhedeg Linux. Mae'n syniad da i glicio ar y cyswllt Cofiwch! uchod er mwyn darllen y nodiadau cyfieithu. Dylunwyd y meddalwedd i fod mor hawdd â phosib i'w ddefnyddio - ond gallwch ddarllen canllaw manwl un-dudalen drwy glicio ar y cyswllt Defnyddio Kyfieithu uchod. Os ydych yn ansicr o sut i gyfieithu term, gallwch ddefnyddio ein geiriadur arlein, Kywiro. Mae hwn yn cynnwys bron i 120,000 o gyfieithiadau o nifer o gywieithiau cyfrifiaduro Cymraeg, a bydd yn gadael i chi weld beth gafodd ei ddefnyddio o'r blaen. (Ac os nad ydych yn hoffi beth welwch chi, gallwch glicio'r cyswllt Kywiro wrth ymyl y cyfieithiad ac ychwanegu cywiriad neu sylwad!) Diolch i chi am unrhyw cyfraniad cyfieithu y gallwch ei wneud. Buasai hi'n wych hefyd os gallwch gwasgaru'r gair ymysg eich ffrindiau - y mwyaf o bobl sy'n cyfrannu, y cyflymach bydd y cywaith yn cael ei gwblhau, a'r mwy o Gymraeg fydd yn cael ei defnyddio! Os ydych yn cael anhawsterau, neu os oes gennych gwestiynau, anfonwch ebost imi (Kevin Donnelly) ar kevin-wrth-dotmon(.com) - newid yr -wrth- i @ a gwaredu'r cromfachau. |
Cyfieithu (mae ieithmon yn athronydd ...)
Hudol yw tân syniadau y dewin
|